SL(5)286 – Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018
Cefndir a Diben
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud nifer o ddiwygiadau technegol i nifer o offerynnau statudol sy'n ymwneud â chynllunio, amaethyddiaeth, iechyd anifeiliaid, pysgodfeydd a'r amgylchedd ac nid ydynt yn cyflwyno unrhyw newidiadau polisi.
Y weithdrefn
Negyddol
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro cyfeiriadau sydd wedi dyddio at ddeddfwriaeth Ewropeaidd a deddfwriaeth ddomestig cyn i'r DU ymadael â'r UE.
Fel y nodir ym mharagraff 4 o'r Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig), “the technical changes made by these Regulations are necessary to ensure the effective and correct functioning of the statute book following the UK’s exit from the EU. The amendments include updating references to European and domestic legislation, minor drafting corrections and the revocation of legislation which is no longer applicable”.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
27 Tachwedd 2018